Symud i deimlo’n dda!
Gwthiwch eich pryderon o’r neilltu trwy gerdded neu symud gyda’ch cadair olwyn ac ewch ati i symud mwy heddiw i hybu eich hwyliau!
Mae bod yn egnïol yn teimlo’n dda pan fyddwch yn symud eich corff mewn ffordd rydych yn ei mwynhau
Mae gan bob un ohonom wahanol resymau dros fod yn egnïol, beth sy’n eich cymell chi i symud?
Joio!
Clirio eich meddwl
Cysgu’n well
Cadw at bwysau iach
Cynyddu lefelau eich ffitrwydd
Lleihau stres, gofid a phryder
Hybu’r hwyliau
Cynyddu nerth
Rheoli cyflyrau iechyd
Chwilota’r awyr agored
Cyfarfod â phobl newydd
Cystadlu ag eraill neu â’ch hunan
Cysylltu â theulu a ffrindiau
Cadw lan â’r plant!
Dysgu sgiliau newydd
Lleihau risgiau iechyd
Cwympo, iselder, poen yn y cymalau a’r cefn,
rhai mathau o ganser, strôc,
diabetes math 2 a chlefyd y galon.
’Dyw hi byth yn rhy hwyr i gychwyn!
Efallai eich bod chi eisoes yn egnïol ac yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd?
Symudwch fwy i hybu eich hwyl heddiw!
Dyma sut y mae Powys yn symud...
Amdani, Powys!