Faint ddylwn i symud?
Mae pob symud yn cyfrif! Cerddwch neu defnyddiwch olwynion i fynd i’r siopau, neu i arddio a gwneud gwaith tŷ.
Mae ein cyrff wedi’u dylunio i symud, mae bod yn egnïol yn ein cadwn ni’n iach ac yn hapus.
Os ydy bod yn egnïol yn rhywbeth newydd i chi, gwnewch hynny fedrwch chi i symud mwy ac eistedd llai, a chynyddwch eich symud o’r fan honno.
Gwnewch amser i symud er lles eich iechyd…
Am 20 munud bob dydd, ewch ati i wneud rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau, sy’n gwneud i chi anadlu ychydig yn gynt, er eich bod yn gallu sgwrsio ar yr un pryd…
…neu am ryw 10 munud, pan fyddwch yn anadlu hyd yn oed yn gyflymach, ac mae hi’n anodd sgwrsio.
Cynyddwch eich cryfder ddwywaith yr wythnos. Gall pethau fel ioga, codi pwysau a hyd yn oed cario eich bagiau siopa gadw eich cyhyrau, eich esgyrn a’ch cymalau’n gryf.
Os ydych dros 65 oed, mae’n syniad da ychwanegu dau weithgaredd cydbwysedd bob wythnos, er enghraifft dawns a tai chi er mwyn lleihau eiddilwch a’r duedd i gwympo.
Dechreuwch heddiw!
Darllenwch ragor am y canllawiau gweithgareddau corfforol ar gyfer gwahanol grwpiau:
Defnyddiwch y nodwedd darganfod gweithgaredd i ddewis gweithgaredd rydych chi’n ei fwynhau
Gwnewch amser i symud, rydych chi’n ei haeddu!
Dyma sut y mae Powys yn symud...
Amdani, Powys!