Telerau defnydd ac ymwadiad
Darllenwch yr amodau a’r telerau hyn yn ofalus cyn ichi ddechrau defnyddio ein gwefan.
Mae defnydd o’r wefan hon yn amodol ar y telerau defnyddio isod: (sylwch fod ‘ni’ yn cyfeirio at Gyngor Sir Powys a ‘chi’ neu ‘y defnyddiwr’ yn cyfeirio atoch chi. Mae ‘safle’ a ‘gwefan’ yn cyfeirio at amdanipowys.co.uk
Mae gwefan Amdani Powys yn cael ei chynnal a’i gweithredu gan Gyngor Sir Powys, heb unrhyw gost am eich defnydd personol ohoni. Mae’r wefan yn cynnwys Darganfod Gweithgaredd trydydd parti, (a ddarperir gan Playwaze). Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio am chwaraeon, sesiynau gweithgareddau a chyfleusterau sy’n cael eu cynnig gan ddarparwyr annibynnol.
Os ydych chi’n ddarparwr sy’n defnyddio ac wedi sefydlu cyfrif Playwaze drwy wefan Amdani Powys, nodwch fod telerau ac amodau Playwaze yn berthnasol. https://playwaze.com/w/terms/
Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw. Os nad ydych yn cytuno â’r telerau defnyddio hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan.
Efallai y byddwn yn adolygu’r telerau defnyddio hyn unrhyw bryd drwy ddiwygio’r dudalen hon. Gwiriwch y dudalen o bryd i’w gilydd er mwyn rhoi sylw i unrhyw newidiadau a wnaethom, gan eich bod wedi ymrwymo i wneud hynny.
Ymwadiad
Darperir unrhyw gyfleusterau, offer, gwasanaethau neu wybodaeth ar-lein y mae Cyngor Sir Powys yn eu cynnig “fel y mae” ac ar sail “lle bo ar gael.” Nid yw Cyngor Sir Powys yn gwarantu mynediad parhaus, di-dor na diogel i’r Safle a gall nifer o ffactorau y tu hwnt i’w reolaeth ymyrryd â mynediad i’r Safle.
Nid ydym yn gwarantu y bydd y Gwasanaeth yn rhydd o ddiffyg a / neu nam. I’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn darparu unrhyw warantau (datganedig neu ymhlyg) o addasrwydd at ddiben penodol, cywirdeb y wybodaeth, cydnawsedd ac ansawdd boddhaol.
Mae cynnwys tudalennau’r Wefan ar gyfer eich gwybodaeth gyffredinol a’ch defnydd yn unig, a gellir ei newid yn ddirybudd. Ni fwriedir i gynnwys y wefan hon fod yn gyngor y dylech ddibynnu arno. Mae’n rhaid i chi gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn cymryd, neu ymatal rhag, unrhyw gamau gweithredu yn seiliedig ar y cynnwys ar ein Safle.
Nid ydym yn cynnal unrhyw ddilysiad neu wiriad ar ddarparwyr a restrir ar yr Darganfod Gweithgaredd mewn perthynas â’u haddasrwydd o dan ddeddfwriaeth diogelu plant neu gyfreithiau cymwys eraill, ac nid yw’n ofynnol i ni wneud hynny. Rydym yn argymell bod pobl, yn enwedig rhieni a gofalwyr, yn darllen ein gwybodaeth am ddiogelu ac yn gwirio drostyn nhw’u hunain y darparwyr sydd wedi’u rhestru cyn mynychu sesiynau gweithgaredd. Mae’n hanfodol gwirio cymwysterau darparwr cyn dechrau gweithio gydag ef. Dyma rai ffactorau i’w hystyried:
- A ydyw wedi cael ei wirio gan y DBS?
- A oes ganddo yswiriant priodol?
- A ydyw wedi derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf?
- A oes ganddo bolisi diogelu ar waith?
- A ydyw wedi’i hyfforddi yn y maes penodol sydd ei angen arnoch, er enghraifft a ydyw’n gallu cefnogi ar gyfer cyflyrau iechyd neu anableddau?
Byddwn yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan mor gywir â phosibl. Mae’r Safle’n hysbysebu gweithgareddau darparwyr a grwpiau trydydd parti drwy’r Darganfod Gweithgaredd. Mae manylion yr eitemau sydd wedi’u rhestru ar yr Darganfod Gweithgaredd yn cael eu cynhyrchu gan y cyfranwyr ac nid ydynt wedi’u gwirio na’u cymeradwyo gennym ni. Mae’r cyfranwyr eu hunain yn cynnal eu gwybodaeth eu hunain ac maent yn croesawu adborth am gywirdeb y wybodaeth y maent yn ei darparu.
Nid ydym ni nac unrhyw drydydd partïon yn darparu unrhyw warantiad na gwarant ynghylch cywirdeb neu addasrwydd y wybodaeth a’r deunyddiau a ganfyddir neu a gynigir ar y wefan hon at unrhyw ddiben penodol. Rydych yn cydnabod nad yw Cyngor Sir Powys yn derbyn unrhyw atebolrwydd na chyfrifoldeb am unrhyw wallau neu hepgoriadau yng nghynnwys y Safle ac ni fydd yn gyfrifol am unrhyw golled, difrod neu anghyfleustra a achosir o ganlyniad i’w defnyddio i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith. Mae defnyddwyr sy’n dibynnu ar y wybodaeth hon yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain, a chynghorir y rhai sy’n ei chyrchu i gymryd camau rhesymol i ystyried ei chynnwys cyn gweithredu arni.
Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am sesiynau gweithgaredd trydydd parti yn uniongyrchol at ddarparwr gwasanaeth hwnnw. Sylwch, pan fyddwch yn archebu sesiwn weithgaredd y dewch o hyd iddi ar yr Darganfod Gweithgaredd, mai gyda darparwr y sesiwn yn uniongyrchol y mae eich archeb, ac nid gyda Chyngor Sir Powys.
Os oes gennych amheuon ynghylch addasrwydd darparwr sesiwn i gael ei restru ar Darganfod Gweithgaredd Amdani Powys, cysylltwch â ni yn letsgo@powys.gov.uk.
Am fwy o wybodaeth, cyfeiriwch at y telerau a’r amodau llawn.
Dim dibyniaeth ar wybodaeth
Bwriad y wybodaeth a’r cyngor a ddarperir ar ein gwefan yw cynorthwyo pobl i gael gwybodaeth am weithgarwch corfforol perthnasol i gynorthwyo ar gyfer eu sefyllfa bersonol nhw, neu sefyllfa y rhai y gallent fod yn gofalu amdanynt. Byddwn yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan mor gywir â phosibl. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod ystod eang o sefydliadau yn cyfrannu at y wybodaeth a geir yng nghyfeiriadur gweithgareddau a lleoliadau’r wefan. Ni ellir ein cael yn gyfrifol am gywirdeb y wybodaeth hon, a chynghorir y rhai sy’n ei chyrchu i gymryd camau rhesymol i ystyried ei chynnwys cyn gweithredu arni. Gallai hyn gynnwys ceisio cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn cymryd, neu ymatal oddi wrth, unrhyw gamau gweithredu ar sail y wybodaeth ar ein gwefan.
Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar ein gwefan, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau, gwarantiadau na gwarantau, boed yn ddatganedig neu’n ymhlyg, bod y wybodaeth ar ein gwefan yn gywir, yn gyflawn nac yn gyfredol.
Nid yw’r wefan hon wedi’i bwriadu mewn unrhyw ffordd i ddisodli cyngor gan feddyg nac unrhyw weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol arall. Cysylltwch â’r gweithiwr proffesiynol hwnnw os oes gennych bryderon penodol am eich amgylchiadau.
Newidiadau i’n gwefan
Byddwn bob amser yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth y wefan yn cael ei chadw mor gywir â phosibl. Dylid nodi, fodd bynnag, nad yw cynnwys y wefan wedi’i ddiweddaru ar unrhyw adeg benodol. Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan, nac unrhyw gynnwys arni, yn rhydd o wallau neu hepgoriadau.
Cael mynediad i’n safle
Mae ein gwefan ar gael yn rhad ac am ddim. Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan, nac unrhyw wybodaeth ynddi, ar gael bob amser neu ar gael yn ddi-dor. Caniateir mynediad i’n gwefan dros dro. Gallwn atal, tynnu’n ôl, terfynu, neu newid y cyfan neu unrhyw ran o’n gwefan yn ddirybudd. Ni fyddwn yn atebol i chi os nad yw ein gwefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod, am unrhyw reswm.
Chi sy’n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau sy’n angenrheidiol er mwyn i chi gael mynediad i’n gwefan. Rydych hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod pawb sy’n cyrchu ein gwefan trwy eich cysylltiad Rhyngrwyd yn ymwybodol o’r telerau defnyddio hyn a thelerau ac amodau cymwys eraill, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.
Mae ein gwefan yn agored i fynediad cyffredinol. Y bwriad yw bod o ddefnydd i bobl ym mhob rhan o Gymru a’r gororau, ac i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyfleoedd gweithgareddau corfforol ym Mhowys. Nid ydym yn dweud bod y wybodaeth sydd ar gael ar neu drwy ein gwefan yn briodol neu ar gael mewn lleoliadau eraill. Efallai y byddwn yn cyfyngu ar argaeledd ein gwefan, neu unrhyw wasanaeth neu gynnyrch a ddisgrifir ar ein gwefan i unrhyw unigolyn neu ardal ddaearyddol ar unrhyw adeg. Os byddwch yn dewis cyrchu ein gwefan o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, rydych chi’n gwneud hynny ar eich menter eich hun.
Hawliau eiddo deallusol
Ni yw perchennog neu drwyddedai pob hawl eiddo deallusol ar ein Safle, a’r deunydd a gyhoeddir arno. Mae cyfreithiau hawlfraint a chytuniadau ledled y byd yn diogelu’r gweithiau hyn. Cedwir yr holl hawliau hyn. Rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ran o’r cynnwys ar ein safle at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny naill ai gan ein trwyddedwyr neu gennym ni.
Gallwch argraffu copïau a lawrlwytho darnau o unrhyw dudalen(nau) o’n gwefan at eich defnydd personol neu ar gyfer pobl eraill y gallech fod yn eu cynrychioli. Gallwch dynnu sylw eraill o fewn eich sefydliad at y wybodaeth a bostiwyd ar y wefan.
Rhaid i chi beidio ag addasu copïau papur neu ddigidol unrhyw ddeunyddiau rydych chi wedi’u hargraffu neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, a rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ddarluniau, ffotograffau, fideos neu ddilyniannau sain nac unrhyw graffeg ar wahân i unrhyw destun sy’n gysylltiedig â nhw.
Os ydych yn argraffu, yn copïo neu’n lawrlwytho unrhyw ran o’n gwefan yn groes i’r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn dod i ben ar unwaith a rhaid i chi, yn ôl ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau a wnaethoch o’r deunyddiau.
Gellir atgynhyrchu deunydd ar y wefan yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng at ddibenion ymchwil, astudiaeth breifat a defnydd personol anfasnachol. Mae hyn yn amodol ar atgynhyrchu’r deunydd yn gywir ac nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid dangos cydnabyddiaeth i Gyngor Sir Powys fel awdur deunydd ar y Safle bob tro.
Os hoffech ddefnyddio unrhyw un ran o’r cynnwys sydd ar gael ar Amdani Powys (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw ffotograffau, logos, dyluniadau neu ddelweddau), cysylltwch â: letsgo@powys.gov.uk.
Cyfyngiad ar ein hatebolrwydd
Nid oes dim yn y telerau defnyddio hyn yn eithrio, neu’n cyfyngu ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o’n hesgeulustod, neu ein twyll neu gamliwiad twyllodrus, neu unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu gan gyfraith Lloegr.
I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydym yn eithrio’r holl amodau, gwarantiadau, sylwadau neu delerau eraill a allai fod yn berthnasol i’n safle neu unrhyw gynnwys arno, boed yn ddatganedig neu’n ymhlyg.
Ni fyddwn yn atebol i unrhyw ddefnyddiwr am unrhyw golled neu ddifrod, boed mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol, neu fel arall, hyd yn oed pe gellid ei ragweld, sy’n codi o dan neu mewn cysylltiad â:
- Defnyddio neu anallu i ddefnyddio ein gwefan; neu
- Ddefnyddio neu ddibynnu ar unrhyw gynnwys a ddangosir ar ein gwefan.
- Os ydych yn ddefnyddiwr busnes, sylwch yn benodol, na fyddwn yn atebol am:
- Golli elw, gwerthiannau, busnes neu refeniw;
- Tarfu ar fusnes;
- Colli arbedion a ragwelir;
- Colli cyfle busnes, ewyllys da neu enw da; neu
- Unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol.
Os ydych chi’n ddefnyddiwr, sylwch mai dim ond at ddefnydd domestig a phreifat y byddwn yn darparu ein gwefan.
Rydych yn cytuno i beidio â defnyddio ein gwefan at unrhyw ddibenion masnachol neu fusnes, ac nid oes gennym unrhyw atebolrwydd i chi am golli elw, colli busnes, tarfu ar fusnes, neu golli cyfle busnes.
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan firws, ymosodiad gwrthod gwasanaeth, na deunydd technolegol niweidiol arall a allai heintio eich offer cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu ddeunydd perchnogol arall oherwydd eich defnydd o’n gwefan neu oherwydd ichi lawrlwytho unrhyw gynnwys arni, neu ar unrhyw wefan sy’n gysylltiedig â hi.
Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau y mae dolenni iddynt ar ein gwefan ni. Darperir dolenni o’r fath er eich gwybodaeth yn unig, ac ni ddylid eu dehongli fel cymeradwyaeth gennym o’r gwefannau cysylltiedig hynny. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a allai godi o’ch defnydd ohonynt. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y gwefannau neu’r adnoddau hynny.
Uwchlwytho cynnwys i’n gwefan
Bydd unrhyw gynnwys rydych chi’n ei uwchlwytho i’n gwefan trwy Darganfod Gweithgaredd Playwaze yn cael ei ystyried yn anghyfrinachol ac yn amherchnogol. Chi sy’n cadw pob hawl perchnogaeth ar eich cynnwys, ond mae’n ofynnol i chi ganiatáu trwydded gyfyngedig i ni ac i ddefnyddwyr eraill y wefan, i ddefnyddio, cadw a chopïo cynnwys ac i’w ddosbarthu a’i wneud ar gael i drydydd partïon.
Mae gennym hefyd yr hawl i ddatgelu eich hunaniaeth i unrhyw drydydd parti sy’n honni bod unrhyw gynnwys sy’n cael ei bostio neu ei uwchlwytho gennych chi i’n gwefan gyfystyr â thorri eu hawliau eiddo deallusol nhw, neu eu hawl i breifatrwydd.
Ni fyddwn yn gyfrifol, nac yn atebol i unrhyw drydydd parti, am gynnwys na chywirdeb unrhyw gynnwys a bostiwyd gennych chi neu unrhyw ddefnyddiwr arall o’n gwefan.
Mae gennym yr hawl i ddileu unrhyw bostio a wnewch ar ein gwefan os bydd, yn ein barn ni, yn anweddus, yn fygythiol, yn dwyllodrus, yn ymosodiad ar breifatrwydd neu’n dramgwyddus i rywun arall. Ni ddylai’r cynnwys dorri amodau hawlfraint, nod masnach na phreifatrwydd person neu barti.
Nid yw’r safbwyntiau a fynegir gan ddefnyddwyr eraill ar ein gwefan yn cynrychioli ein safbwyntiau na’n gwerthoedd ni. Chi yn unig sy’n gyfrifol am sicrhau a chynnal copi wrth gefn o’ch cynnwys.
Diogelu data a phreifatrwydd
Mae ein polisi preifatrwydd yn nodi sut y byddwn yn diogelu eich gwybodaeth a sut y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio ar ein gwefan, a gallwch ei ddarllen yma.
Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth benodol llysoedd Cymru a Lloegr.
Y Gymraeg
Sylwch fod y canlyniadau a ganfuwyd wrth chwilio yn y Gymraeg neu’r Saesneg ar ochrau Cymraeg a Saesneg y wefan (amdanipowys.co.uk neu letsgopowys.co.uk) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr (yn amodol ar reolau sy’n ymwneud â safonau iaith sy’n berthnasol i rai mathau o ddarpariaeth) ddewis rhoi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, yn Gymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg yn y safle i gyfyngu ar effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu y bydd gwahaniaethau yn y canlyniadau a gynhyrchir yn anochel ambell dro.
Darparwyr y gweithgareddau a’r cyfleusterau sy’n llwyr gyfrifol am sicrhau bod unrhyw wybodaeth a ychwanegant at ein Safle yn bodloni rhwymedigaethau eu sefydliad fel y manylir arnynt o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg (1993) a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Dylech hefyd ystyried eich rhwymedigaethau, o ran defnyddio’r Gymraeg, o dan delerau ac amodau unrhyw gytundeb contractiol neu gytundeb a ariennir â grant a allai fod gennych gyda chorff cyhoeddus, er enghraifft Awdurdod Lleol neu Fwrdd Iechyd.
Firysau
Ni allwn warantu y bydd ein gwefan yn ddiogel neu’n rhydd rhag bygiau neu firysau. Chi sy’n gyfrifol am ffurfweddu’ch technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a’ch platfform i gael mynediad i’n gwefan. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd diogelu firysau eich hun.
Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio ein gwefan yn fwriadol trwy gyflwyno firysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall, sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i’n gwefan, y gweinydd y mae ein gwefan yn cael ei storio arno, nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sydd wedi’i chysylltu â’n gwefan.
Rhaid i chi beidio ag ymosod ar ein gwefan trwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu anfon ymosodiad gwrthod gwasanaeth. Drwy dorri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw doriad o’r fath i’r awdurdodau sy’n gorfodi’r gyfraith berthnasol, a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu iddynt pwy ydych chi. Os bydd toriad o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn dod i ben ar unwaith.
Ni fydd Cyngor Sir Powys yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ymosodiad gwrthod gwasanaeth, firysau neu ddeunydd arall sy’n dechnegol niweidiol a allai heintio eich offer cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu ddeunydd perchnogol arall oherwydd eich defnydd o’r Safle neu oherwydd ichi lawrlwytho unrhyw ddeunydd a bostiwyd arni, neu ar unrhyw wefan sy’n gysylltiedig â hi.
Rydym yn cadw’r hawl i newid, atal neu derfynu unrhyw ran (neu’r cyfan) o’r wefan gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw gynhyrchion a/neu wasanaethau sydd ar gael. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol i ddefnyddwyr o unrhyw ataliad neu dynnu’n ôl.
Mae’r wefan ar gael i ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig yn unig. Nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau bod ein gwefan yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol sydd mewn grym mewn unrhyw awdurdodaeth heblaw’r Deyrnas Unedig, na bod y cynnwys sydd ar gael ar y wefan yn briodol i ddefnyddwyr mewn gwledydd eraill.
Cysylltu â’n gwefan
Gallwch osod dolen i’n gwefan, neu ymgorffori ein chwiliad yn eich gwefan, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd deg a chyfreithiol ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno. Gellir cael cyngor ar gysylltu â’n gwefan neu ymgorffori trwy letsgo@powys.gov.uk.
Rhaid i chi beidio â gwneud hynny yn y fath fodd fel eich bod yn awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu gymeradwyaeth ar ein rhan ni lle nad yw’n bodoli. Rhaid i chi beidio â sefydlu dolen i’n gwefan mewn unrhyw wefan nad yw’n eiddo i chi.
Rydym yn cadw’r hawl i dynnu caniatâd cysylltu yn ôl heb rybudd.
Os hoffech wneud unrhyw ddefnydd o gynnwys ar ein gwefan heblaw am yr hyn a nodir uchod, cysylltwch â letsgo@powys.gov.uk.
Cyfraith berthnasol
Os ydych chi’n ddefnyddiwr, nodwch mai cyfraith Lloegr sy’n rheoli’r telerau defnyddio hyn, eu pwnc a’u ffurfiant. Rydych chi a ninnau ill dau yn cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth amhenodol. Fodd bynnag, os ydych chi’n preswylio yng Ngogledd Iwerddon, gallwch hefyd ddwyn achos yng Ngogledd Iwerddon, ac os ydych chi’n byw yn yr Alban, gallwch hefyd ddwyn achos yn yr Alban.
Os ydych chi’n fusnes, mae’r telerau defnyddio hyn, eu pwnc a’u ffurfiant (ac unrhyw anghydfodau neu honiadau anghontractiol) yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr. Rydym ill dau yn cytuno i awdurdodaeth benodol llysoedd Cymru a Lloegr.
Cysylltu â ni
Ein swyddfa gofrestredig yw: Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Spa Rd East, Llandrindod, LD1 5LG
I gysylltu â ni, anfonwch e-bostiwch i letsgo@powys.gov.uk.
Dyma sut y mae Powys yn symud...
Amdani, Powys!