Datganiad hygyrchedd
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Amdani Powys a Let’s Go Powys sy’n cael eu rhedeg gan Gyngor Sir Powys.
Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech fod yn gallu:
- Newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffont gan ddefnyddio gosodiadau’r porwr neu’r ddyfais, neu ategyn porwr (mae hwn yn dibynnu ar y porwr a/neu’r ddyfais)
- Chwyddo i mewn hyd at 200% heb i’r testun ‘ddiflannu’ oddi ar ymyl y sgrin
- Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais
- Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os ydych yn byw gydag anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw ambell ran o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Mae rhai tudalennau’n dangos Google Maps y mae rhai defnyddwyr darllenwyr sgrin a defnyddwyr bysellfwrdd yn ei chael hi’n anodd ei ddefnyddio.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os gwelwch unrhyw broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn cwrdd â meini prawf hygyrchedd, yna cysylltwch â ni.
Tîm Amdani Powys / Let’s Go Powys (Chwaraeon Powys)
- Ebost: letsgo@powys.gov.uk
- Ffôn: 01597 826000
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
- Ebost: letsgo@powys.gov.uk
- Ffôn: 01597 826000 (gofynnwch am dîm Chwaraeon Powys)
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus 2018 (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) (y ‘rheoliadau hygyrchedd‘). Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan wedi’i phrofi yn erbyn safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1 AA.
Mae’r wefan yn cydymffurfio’n llwyr os yw’n cyflawni safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1 AA yn llawn.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 AA yn sgil yr eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau a ganlyn:
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
- Google Maps – nid ydynt yn hygyrch i ddefnyddwyr sy’n dibynnu ar feddalwedd darllen sgrin. Rydym yn darparu gwybodaeth hygyrch am y cyfeiriad ochr yn ochr â Google Maps ar y wefan yma.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 01/03/2024.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 12/02/2024 yn erbyn safon WCAG 2.1 AA.
Cynhaliwyd y prawf gan Reolwr Mynediad Digidol Cyngor Sir Powys. Rhoddwyd prawf ar y tudalennau a agorwyd amlaf gan ddefnyddio offer profi awtomatig ein tîm gwefan. Cynhaliwyd archwiliad pellach o’r wefan i safon WCAG 2.2 AA.
Dyma sut y mae Powys yn symud...
Amdani, Powys!