Eich Straeon Chi
Pilates
Bethan
Roeddwn i wedi meddwl rhoi cynnig ar Pilates am sbel, ac yna un diwrnod penderfynais ymuno, ac edrychais i ddim yn ôl wedi hynny. Teimlais fod y menopôs yn effeithio ar fy llesiant, felly roedd angen i mi dod â lefelau stres i lawr. Mae’n hysbys fod pilates yn lleihau stres.
Mae ymuno â grŵp Pilates wedi bod yn wych ar gyfer cymdeithasu a dod i adnabod ffrindiau newydd. Mae Pilates yn ymarfer llai heriol, sy’n addas ar gyfer pob oed a gallu. Mae’n cryfhau craidd y corff, yn gwella stwythder, ystum a chydbwysedd ac yn tyhau cyhyrau sy’n gallu amddiffyn y corff rhag anafiadau. Wrth i ni heneiddio, byddwn yn colli mas ein cyhyrau, felly mae hi’n bwysig cryfhau ein craidd a’n cyhyrau.
Cyngor Bethan
“Yr hyn sy’n wych am PIlates yw ei fod yn ymarfer i’r corff cyfan, mae’n ymarfer llai heriol y gall unrhyw un ymuno ag ef, does dim angen bod yn heini, yn denau, yn ifanc nac yn ystwyth, rhowch gynnig arno mae o mor fuddiol”
Darganfod gweithgareddau Pilates ym Mhowys
Defnyddiwch ein nodwedd darganfod gweithgaredd i ddarganfod gweithgareddau Pilates yn eich ardal chi.
Dyma sut y mae Powys yn symud...
Amdani, Powys!