Eich Straeon
Pêl-rwyd dan Gerdded
Liza
Roeddwn i’n arfer mwynhau pêl-rwyd pan oeddwn i yn yr ysgol 60 mlynedd yn ôl, meddyliais y byddwn i’n rhoi cynnig arni, a gwelais ar unwaith fod y grŵp yn groesawgar ac yn anogol.
Rwy’n ei chael hi’n ffordd wych o gael math o ymarfer sy’n wahanol i gerdded, dyna beth rwy arfer â gwneud i gadw’n heini. Mae’n defnyddio gwahanol gyhyrau a byddaf yn mynd allan o wynt weithiau. Hefyd rwy wedi cyfarfod â phobl newydd ac wedi gwneud ffrindiau newydd ac rwy wrth fy modd gyda’r gamp.
Cyngor Liza
“Mae’r grŵp yn addas i unrhyw un, a gallwch wneud cymaint neu gyn lleied ag y mynnwch, a chael hoe fach os oes angen i chi wneud hynny. Does dim rhaid i chi fod wedi chwarae pêl-rwyd o’r blaen. Ry’n ni’n grŵp cyfeillgar a chynhwysol, gydag amrywiaeth o ran oed, ac amrywiaeth hefyd o alluoedd neu anableddau. Rhowch gynnig arni – efallai y gwnewch chi ddarganfod eich bod chithau’n ei fwynau hefyd.”
Darganfod gweithgareddau pêl-rwyd dan gerdded ym Mhowys
Defnyddiwch ein nodwedd darganfod gweithgaredd i ddod o hyd i weithgareddau pêl-rwyd dan gerdded yn eich ardal chi.
Dyma sut y mae Powys yn symud...
Amdani, Powys!