A couple running in the countryside

Newyddion

Dewch i ddarganfod Bowlio ym Mhowys

17 Medi 2026
Dewch i ddarganfod Bowlio ym Mhowys

Bydd y chwyddwydr yn disgyn yn gadarn ar y sir y mis hwn pan fydd Clwb Bowlio Llandrindod yn cynnal Pencampwriaethau Ewrop, gan nodi’r tro cyntaf i’r twrnamaint mawreddog gael ei gynnal yng Nghymru. Bydd y digwyddiad yn dod â rhai o fowlwyr gorau Ewrop i Ganolbarth Cymru am wyth diwrnod o gystadleuaeth ryngwladol, sy’n cynnwys senglau, parau, triphlyg a phedwar, ochr yn ochr â disgyblaeth para a disgyblaeth i’r sawl sydd â nam ar y golwg.

Er y bydd y pencampwriaethau yn arddangos y gamp ar y lefel uchaf, mae bowlio ymhell o fod ar gyfer athletwyr elitaidd yn unig!

Chwaraeon am Oes

Mae bowlio yn gamp y gellir ei mwynhau ym mhob oed a chyfnod o fywyd. P’un a ydych chi am roi cynnig ar rywbeth newydd, aros yn egnïol, cwrdd â phobl newydd, neu brofi eich hun mewn cystadleuaeth gyfeillgar, mae lle i bawb ar y lawnt.

Yn ogystal â bod yn ffordd wych o symud, mae bowlio yn helpu i ddatblygu cydgysymud, cydbwysedd a chanolbwyntio, gan ei wneud yn fuddiol i les corfforol a meddyliol. Mae hefyd yn bwysig nodi, ei fod yn weithgaredd cymdeithasol sy’n dod â phobl at ei gilydd, gan helpu i adeiladu cyfeillgarwch a chreu ymdeimlad o gymuned.

Harddwch bowlio yw y gallwch gymryd rhan mewn ffordd sy’n addas i chi. Mae rhai pobl yn mwynhau gêm achlysurol gyda ffrindiau, tra bod eraill yn cymryd rhan mewn cynghreiriau, cystadlaethau a gemau. Ym mha ffordd bynnag y byddwch chi’n dewis cymryd rhan, byddwch chi’n ymuno â chwaraeon croesawgar sydd ag ysbryd cymunedol cryf.

Os nad ydych erioed wedi chwarae o’r blaen, does dim angen poeni. Mae llawer o glybiau ledled Powys yn croesawu dechreuwyr ac yn cynnig cyfleoedd i roi cynnig ar y gamp, a hynny’n aml ag offer ar gael i’w fenthyg, gan ei gwneud hi’n hawdd dechrau a darganfod a yw bowlio ar eich cyfer chi.

Cymryd mewn clwb agos atoch chi

I’r rhai sydd â diddordeb yn y gêm awyr agored, mae clybiau croesawgar ledled y sir yn barod i’ch helpu i ddechrau arni. O Grug Hywel a’r Gelli Gandryll yn y de, i Landrindod yng Nghanolbarth Powys, a Llanidloes, Ceri, Y Drenewydd, Aberriw a Charno yn y gogledd, mae digon o lefydd i fwynhau bowlio awyr agored drwy gydol y tymor.

Wrth i’r tymhorau newid, ceir digon o ffyrdd i barhau i chwarae hefyd. Mae cyfleusterau Bowlio Dan Do i’w gweld yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu, Canolfan Hamdden Y Fflash yn y Trallwng, Canolfan Hamdden Bro Ddyfi ym Machynlleth, a Chymdeithas Bowlio Dan Do Sir Faesyfed yn Llandrindod, gan roi cyfle i chwaraewyr fwynhau’r gamp drwy gydol y flwyddyn.

Neu beth am roi cynnig ar Bowls Mat Byr sy’n cael ei chwarae ar raddfa lai na Bowlio Dan Do, mae’n weithgaredd hwyliog, fforddiadwy a chymdeithasol sy’n dod â phobl at ei gilydd mewn neuaddau pentref a chymunedol ledled Powys. O Whitton a Dolfor i Gastell Caereinion a thu hwnt, mae clybiau lleol yn cynnig croeso cynnes ac yn ffordd wych o gadw’n egnïol, gwneud ffrindiau a dod yn rhan o’ch cymuned.

Cyfle i weld y Gamp o Fowlio Rhyngwladol yn Agos

Gwahoddir gwylwyr yn gynnes i ddod draw i fwynhau wythnos o fowlio o’r radd flaenaf rhwng y 19eg a’r 26ain o Fedi wrth i Glwb Bowlio Llandrindod gynnal Pencampwriaethau Ewrop. Mae mynediad am ddim trwy gydol y twrnamaint, sy’n ei gwneud yn gyfle gwych i gael profiad o’r gamp yn agos, p’un a ydych chi’n gefnogwr bowlio ymroddedig neu’n chwilfrydig i weld beth mae’n ei olygu. Gall ymwelwyr edrych ymlaen at gemau o safon uchel ac awyrgylch groesawgar, wrth iddynt hefyd weld yn uniongyrchol y gwaith aruthrol a wnaed gan y tîm yng Nghlwb Bowlio Llandrindod i baratoi’r lawntiau a’r lleoliad ar gyfer y digwyddiad mawreddog hwn.

Darganfyddwch a yw Bowls ar eich cyfer chi

Os nad ydych erioed wedi ystyried bowlio o’r blaen, gallai nawr fod yr amser perffaith i gamu ar y lawnt. P’un a ydych chi’n chwilio am her newydd, yn chwilio am weithgaredd cymdeithasol, neu am symud mwy, mae bowlio yn cynnig ffordd hwyliog a hygyrch o gadw’n egnïol.

Ewch i dudalen Amdani Powys – Darganfod Gweithgaredd i ddarganfod clybiau bowlio a sesiynau yn eich ardal chi a chymryd y cam cyntaf tuag at gymryd rhan yn un o chwaraeon mwyaf cynhwysol Powys. Neu cysylltwch â thîm Chwaraeon Powys ar sports.development@powys.gov.uk.

Amdani Powys
Trosolwg o Breifatrwydd

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn i ni allu darparu’r profiad defnyddiwr gorau posibl ichi. Bydd gwybodaeth cwcis yn cael ei storio yn eich porwr ac mae’n cyflawni swyddogaethau fel eich adnabod chi pan fyddwch yn dychwelyd i’n gwefan, a helpu ein tîm i ddeall pa adrannau o’r wefan sydd mwyaf diddorol a defnyddiol yn eich barn chi.

Gallwch ddarganfod mwy trwy ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd a chwcis.