Eich Straeon Chi
Beicio Mynydd
Morgan
Roeddwn i bob amser yn mwynhau beicio pan oeddwn i’n blentyn. Rwy’n credu mai fy hoffter o’r awyr agored a her gorfforol a’m denodd i at feicio mynydd fel oedolyn.
Rwy’n cael ymdeimlad o ryddid, antur a boddhad. Mae bob amser yn werth y cyfan pan fyddwch yn llwyddo i orffen dringo, meistroli sgil newydd neu oresgyn rhwystr.
Cyngor Morgan
“Ewch amdani! Mae yna gymaint o ddisgyblaethau o fewn beicio mynydd – byddwch yn bendant yn dod o hyd i rywbeth y byddwch chi’n ei fwynhau. Dechreuwch yn fach, ac yna’n raddol ychwanegu at yr her, a galla’ i bron iawn warantu y bydd y gamp wedi eich bachu am byth!”
Darganfod grwpiau a digwyddiadau beicio mynydd ym Mhowys
Defnyddiwch ein nodwedd darganfod gweithgaredd i ddod o hyd i weithgareddau beicio yn eich ardal chi.
Dyma sut y mae Powys yn symud...
Amdani, Powys!